Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

24 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r canfyddiadau o'r gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y Bwrdd Iechyd) ddiwedd 2009 a thrwy gydol 2010. 

 

16 Maw 2011 - 9:35yb

Fe ysgrifenwyd y llythyr canlynol mewn ymateb i gais i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried ymchwiliad i mewn i raglen Technium gan Jonathan Morgan AC

16 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn y Bwrdd Iechyd ddiwedd 2009 a thrwy gydol 2010. Mae hyn yn fy ngalluogi i gyflawni fy nghyfrifoldebau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o ran archwilio cyfrifon 2009-10 a threfniadau'r Bwrdd i sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a darbodusrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.

16 Maw 2011 - 8:56yb

Mae'r ailarolygiad hwn yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad 2009 ac yn ystyried effaith ymyrraeth Weinidogol ar drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor. Cynhaliwyd yr arolygiad dros bedwar diwrnod yn ystod y cyfnod 23 i 28 Chwefror 2011. Rydym yn cydnabod gwaith staff y Cyngor wrth wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer ein gwaith, a pharodrwydd uwch swyddogion a chynghorwyr i newid eu cynlluniau ar fyr rybudd er mwyn cyfarfod â thîm yr arolygiad. 

9 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf (y Bwrdd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o chwe mis terfynol cyrff rhagflaenol y Bwrdd hyd at 30 Medi 2009. Nodwyd y gwaith y sonnir amdano yn y Llythyr yn y Strategaethau Archwilio y cytunwyd arnynt ar gyfer y sefydliadau canlynol: Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf.

9 Maw 2011 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol interim hwn i Fwrdd Iechyd Lleol newydd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau terfynol o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio interim (Llythyr) hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol hwn (y Llythyr) at Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau ar gyfer y cyfnod chwe mis olaf hyd at 30 Medi 2009 cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd.

28 Chwef 2011 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol (y Llythyr) hwn i aelodau Awdurdod Heddlu Gwent (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'r llythyr yn cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill. Nodwyd y gwaith y cyflwynir adroddiad arno yn y Llythyr hwn yn y Strategaeth Amlinellol y cytunwyd arni ar gyfer 2009-10. Anfonwyd y llythyr hwn gan John Herniman ar ran yr Archwilydd Penodedig

Tudalennau