Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

1 Ion 2012 - 9:21yb

Mae’r papur briffio canlynol yn darparu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ag amlinelliad o raglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2012

1 Ion 2012 - 12:00yb

Er bod cynnydd da wedi’i wneud i gyflawni rhag agweddau ar gynllun gweithredu’r Bwrdd Iechyd, nid yw trefniadau monitro pwysig wedi cael eu datblygu ac mae angen gwneud mwy i sicrhau y gweithredir canllawiau’r swydd yn effeithiol.

8 Rhag 2011 - 9:35yb

Cyhoeddir yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd o dan Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn i dynnu sylw'r cyhoedd at fethiant yn y trefniadau llywodraethu a diffygion o ran rheoli ariannol a rheolaeth fewnol yng Nghyngor Cymuned Mawr. 

 

8 Rhag 2011 - 9:35yb

Cyhoeddir yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd o dan Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Rwyf wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn i dynnu sylw'r cyhoedd at fethiant yn y trefniadau llywodraethu a diffygion o ran rheoli ariannol a rheolaeth fewnol yng Nghyngor Cymuned Clydach.

29 Tach 2011 - 9:35yb

Ers 2005, mae Swyddfa Archwilio Cymruhefyd wedi cyhoeddi adroddiadau o bwys ar nifer o bynciau sy'n gysylltiedig â grantiau cyhoeddus. Rydym yn dwyn ynghyd yr holl brofiad hwn ynyr adroddiad hwn i ateb y cwestiwn, ‘A gaiff grantiau'r sector cyhoeddus yng Nghymru eu rheoli'n dda?’

16 Tach 2011 - 9:02yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o’r gwaith archwilio rwyf wedi’i gyflawni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2011. 

 

8 Tach 2011 - 9:21yb

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol baratoi amcangyfrifiad blynyddol o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru i’w gyflwyno i’r Pwyllor Cyfrifon Cyhoeddus.

14 Hyd 2011 - 10:35yb

Yn yr adroddiad cyntaf o'r enw Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2010, amcangyfrifwyd yr heriau ariannol a wynebai'r gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru a'r gwersi allweddol o'r gwaith a gyflawnwyd gan fy staff a chontractwyr. Diben yr ail adroddiad hwn yw rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa
gyfredol a helpu gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau ariannol. Bwriadaf i'r adroddiad hwn fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i arweinwyr gwleidyddola gweinyddol wrth iddynt ddatblygu ymhellach eu cynlluniau ar gyfer llwyddo gyda llai.

4 Hyd 2011 - 10:02yb

Cyflwynwyd llythyr blynyddol interim i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) ym mis Mehefin 2010. Roedd yr adroddiad hwnnw’n ymwneud â’m gwaith archwilio yn ystod chwe mis olaf cyrff rhagflaenol y Bwrdd Iechyd hyd 30 Medi 2009. 

 

1 Hyd 2011 - 12:00yb

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu rotâu sy’n cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd (y Gyfarwyddeb) ond mae angen iddo atgyfnerthu trefniadau presennol er mwyn cynnal lefelau cydymffurfio a gofal cleifion.

Tudalennau