Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

27 Medi 2013 - 10:02yb

Mae'r ddogfen hon wedi'i pharatoi at ddefnydd mewnol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o waith sy'n cael ei gyflawni yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

26 Medi 2013 - 10:35yb

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio ateb y cwestiwn: ‘A yw awdurdodau gwella (awdurdodau) yn cynllunio, darparu ac adrodd eu gwelliannau’n effeithiol?’

24 Medi 2013 - 1:20yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur.

19 Medi 2013 - 9:56yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

19 Medi 2013 - 9:56yb

Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol  o sicrhau gwelliant parhaus?’

18 Medi 2013 - 9:49yb

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur. 

17 Medi 2013 - 10:35yb

Aethom ati i archwilio trefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon mewn ysgolion mewn partneriaeth ag Estyn – Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae adroddiad Estynyn canolbwyntio ar sut mae absenoldeb athrawon yn effeithio ar gynnydd dysgwyr. Yn yr adroddiad hwn, gan ddefnyddio canfyddiadau Estyn, rydym yn ceisio ateb y cwestiwn ehangach, sef a yw dysgwyr, ysgolion a phwrs y wlad yn cael eu gwasanaethu’n dda gan drefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon.

13 Medi 2013 - 10:35yb

Roedd archwiliad allanol o gyfrifon cynghorau lleol ar gyfer 2011-12 yn dangos bod angen i gynghorau lleol roi ffocws clir ar wella’u trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol.

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru.

Tudalennau