Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

27 Ion 2017 - 4:04yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o’r gwaith archwilio sydd wedi ei wneud yn gysylltiedig â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys a Phrif Gwnstabl Dyfed Powys  yn ystod 2016.

19 Ion 2017 - 1:30yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ein canfyddiadau o’r gwaith archwilio a wnaethom ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ystod 2016. 

19 Ion 2017 - 6:00yb

Mae gwaith asesiad strwythuredig yn 2016 eto wedi adolygu trefniadau rheolaeth ariannol yr Ymddiriedolaeth a’r cynnydd a wnaed i ymdrin ag argymhellion y flwyddyn flaenorol.

10 Ion 2017 - 3:11yp

Mae’r Datganiad hwn yn amlinellu cyfrifoldebau perthansol yr Archwilydd Cyffredinol, yr archwilwyr sy’n gweithio o dan ei drefniadau ar gyfer ardystio ceisiadau am grantiau a chofnodion sy’n gysylltiedig a hwythau, a’r cyrff sy’n gwborwyo neu sy’n cael y grantiau y mae angen iddynt gael eu hardystio.

16 Rhag 2016 - 10:05yb

Rydym wedi gwneud gwaith dilynol ar sut y mae nifer o gyrff iechyd wedi mynd i’r afael â’n hargymhellion yn adolygiad 2010 yr Archwilydd Cyffredinol ar ba mor dda yr oedd cyflogwyr GIG yn defnyddio’r broses cynllunio swyddi.

15 Rhag 2016 - 10:59yb

Mae gwaith asesu strwythuredig yn 2016 unwaith eto wedi adolygu trefniadau rheolaeth ariannol y Bwrdd Iechyd a’r cynnydd a wnaed wrth fynd i’r afael ag argymhellion y flwyddyn flaenorol.

15 Rhag 2016 - 12:01yb

Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno’r negeseuon allweddol o holl waith lleol yr Archwilydd Cyffredinol ar reoli meddyginiaethau.

13 Rhag 2016 - 4:24yp

Rydyn ni wedi cyhoedd’r Cynllun Ffïoedd ar gyfer 2017-18, a gymeradwywyd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol ar 7 Rhagfyr 2016.

5 Rhag 2016 - 12:01yb

Roedd gohebiaeth allanol i’r Archwilydd Cyffredinol yn ystod 2014 a 2015 yn nodi pryderon ynglŷn ag agweddau ar drefniadau arwain a llywodraethu’r Llyfrgell, gan gynnwys tensiynau yn y berthynas â’r staff a chyhoeddusrwydd am bryderon penodol ynglŷn â chanlyniad tribiwnlys cyflogaeth, a ganfu bod dau aelod o staff wedi eu diswyddo’n annheg. 

1 Rhag 2016 - 12:01yb

Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn gyntaf ar ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r datganoli cyllidol cyffredinol gan gynnwys gwaith ei swyddogaethau yn Nhrysorlys Cymru; ac yn ail ar waith penodol hyd yma ar gyfer sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru

Tudalennau