Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

16 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn y Bwrdd Iechyd ddiwedd 2009 a thrwy gydol 2010. Mae hyn yn fy ngalluogi i gyflawni fy nghyfrifoldebau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o ran archwilio cyfrifon 2009-10 a threfniadau'r Bwrdd i sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a darbodusrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.

9 Maw 2011 - 9:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda fel rhan o'r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a'r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

31 Ion 2011 - 8:49yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

31 Ion 2011 - 8:49yb

Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol  o sicrhau gwelliant parhaus?’

27 Ion 2011 - 9:35yb

Edrychwyd i weld a oedd prosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru a gwblhawyd yn ddiweddar wedi cyflawni eu hamcanion ac wedi'u cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Gwnaethom ganolbwyntio ar gyflawni 18 o brosiectau seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd mawr yng Nghymru a gwblhawyd ers 2004, gan ystyried 10 o brosiectau'n fanwl. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu holl gost, neu o leiaf y rhan fwyaf o gost, y prosiectau hyn fel rhan o'i Blaenraglen Cefnffyrdd neu o'i chyllideb Grant Trafnidiaeth.

26 Ion 2011 - 8:56yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

22 Rhag 2010 - 9:35yb

Rydym wedi datblygu model ariannol i nodi'r gwariant cyffredinol ar gost prydau ysgol. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau cynnar yn seiliedig ar gymhwyso'r model i'r wybodaeth sydd ar gael.

8 Rhag 2010 - 8:56yb

Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol  o sicrhau gwelliant parhaus?’

25 Tach 2010 - 9:35yb

Gwnaethom adolygu pob un o'r 22 o asesiadau corfforaethol, i archwilio a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i'r heriau ariannol ac i nodi gwersi allweddol.

Tudalennau