Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

5 Meh 2014 - 2:28yp

Mae’r adroddiad yn ymdrin â threfniadau Dinas a Sir Abertawe (y Cyngor) i ddarparu a gwerthuso gwasanaethau mewn perthynas â 2012-13, ei waith i gynllunio gwelliant ar gyfer 2013-14.

3 Meh 2014 - 10:59yb

Paratowyd y cynllun ffioedd hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio (Cymru) 2013 (y Ddeddf).

3 Meh 2014 - 9:31yb

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol cael Cod Ymarfer i ymdrin â’r berthynas rhwng Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gadw annibyniaeth y swydd honno’n a darparu ar gyfer safonau llywodraethu cadarn ar yr un pryd.

29 Mai 2014 - 12:01yb

Mae craffu effeithiol yn bwysicach fyth wrth i wasanaethau cyhoeddus ymateb i her y sefyllfa ariannol fyd-eang tra’n parhau i geisio gwella gwasanaethau. Gall craffu effeithiol wella sail y dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau ar ddyrannu adnoddau yn ogystal â sicrhau bod penderfyniadau yn dryloyw ac yn cael eu gwneud yn unol ag anghenion y gymuned leol.

23 Mai 2014 - 9:50yb

Mae’r cynllun cydraddoldeb strategol ar y cyd hwn yn nodi deg amcan penodol i’n helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol (h.y. sicrhau bod ein gwaith yn rhoi ystyriaeth ddyledus i’r angen i helpu i ddileu achosion o wahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da).

1 Mai 2014 - 2:47yp

Mae’r Cod yn rhagnodi’r ffordd y dylai archwiliadau a swyddogaethau eraill yr Archwilydd Cyffredinol gael eu gweithredu, ac mae’n corffori beth sy’n ymddangos i’r Archwilydd Cyffredinol fel arfer proffesiynol gorau.

24 Ebr 2014 - 12:00yb

Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy‟n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae‟n rhy gynnar i asesu‟r effaith gyffredinol.

1 Ebr 2014 - 6:17yp

Paratowyd y Cynllun Blynyddol hwn ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru dan adran 25(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

28 Maw 2014 - 10:35yb

Yn cynnwys graddfeydd ffioedd am archwilio cyfrifon 2013-14 awdurdodau unedol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, cronfeydd pensiwn a chynghorau tref a chymuned.

27 Maw 2014 - 12:00yb

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn.

Tudalennau