Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

31 Awst 2016 - 1:00yp

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi’r gwaith archwilio a wnaed gan staff Swyddfa Archwilio Cymru ar ran yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghyngor Sir Fynwy (y Cyngor) ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf o’r fath ym mis Tachwedd 2015.

25 Awst 2016 - 2:49yp

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi’r gwaith archwilio a wnaed gan staff ar ran yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (y Cyngor) ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf o’r fath ym mis Awst 2015.

25 Awst 2016 - 12:01yb

Diben yr asesiad corfforaethol yw darparu datganiad sefyllfa am adnoddau a gallu awdurdod gwella i sicrhau gwelliant parhaus.

23 Awst 2016 - 3:00yp

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi'r gwaith archwilio a wnaed yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ers cyhoeddi'r adroddiad diwethaf o'r fath ym mis Mehefin 2015.

18 Awst 2016 - 12:01yb

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn ystyried perfformiad ariannol y 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac ansawdd eu trefniadau rheoli ariannol.

11 Awst 2016 - 4:10yp

Mae’r daflen hon yn amlinellu nifer o gwestiynau pwysig gyda’r nod o roi cymorth i aelodau bwrdd y GIG gael sicrwydd bod eu bwrdd iechyd yn ateb y galw am wasanaethau orthopedeg yn effeithiol, yn ddiogel ac yn economaidd.

21 Gorff 2016 - 12:01yb

Mae’r adroddiad hwn yn asesu pa un a yw amcanion allweddol yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn cael eu bodloni ond nid yw’n gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau cynllunio brys a chydnerthedd, na’r ymateb brys i ddigwyddiadau llifogydd. 

8 Gorff 2016 - 3:00yp

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi'r gwaith archwilio a wnaed yng Nghyngor Dinas Caerdydd ers cyhoeddi'r adroddiad diwethaf o'r fath ym mis Awst 2015.

10 Meh 2016 - 2:50yp

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi’r gwaith archwilio a wnaed yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (y Cyngor) ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf o’r fath ym mis Hydref 2015.

31 Mai 2016 - 3:43yp

Paratowyd y papur briffio hwn ar gyfer Bwrdd Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio GIG Cymru.

Tudalennau