Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

17 Chwef 2010 - 8:49yb

Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol  o sicrhau gwelliant parhaus?’

21 Ion 2010 - 9:37yb

Ym mis Mai 2009, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad Gynllun datblygu cynaliadwy newydd sef Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned. Mae’r adroddiad hwn yn trafod proses
gwneud penderfyniadau Llywodraeth y Cynulliad ynghyd â’r hyn a gyflawnwyd ganddi ym maes datblygu cynaliadwy yn ystod y 10 mlynedd cyn cyhoeddi’r cynllun datblygu cynaliadwy newydd hwn. Gwnaethom ofyn y cwestiwn, ‘A yw proses Llywodraeth y Cynulliad o wneud penderfyniadau busnes yn ategu ei hamcanion datblygu cynaliadwy?’

Tudalennau