Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

31 Maw 2017 - 7:00yb

Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar ateb y cwestiwn canlynol: A yw trefniadau cynllunio arbedion ariannol y cyngor yn cefnogi cydnerthedd ariannol? 

12 Maw 2017 - 12:50yp

Yn dilyn ei sefydlu, etifeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr her o orfod cymryd camau brys i gadw rheolaeth ar y clefyd P Ranuorum mewn coed llarwydd. 

28 Chwef 2017 - 12:01yb

Rydyn ni wedi archwilio a yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei swyddogaeth drosolwg yn effeithiol er mwyn sicrhau, er gwaethaf cyfyngiadau ariannol, bod colegau addysg bellach mewn sefyllfa dda yn ariannol i fodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru.

24 Chwef 2017 - 8:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o'r gwaith archwilio a wnaed gennym ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod 2016. 

16 Chwef 2017 - 3:57yp

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi’r papur hwn yn y gobaith y bydd, wrth ysgogi trafodaeth, yn helpu ymledu arfer da, cynhyrchu syniadau newydd, creu syniadau newydd, cefnogi newid buddiol ac felly cyfrannu at lywodraethu da mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

31 Ion 2017 - 12:01yb

Mae'r adroddiad yma'n edrych ar Reoli Ariannol a Llywodraethu mewn Cynghorau Cymuned yng Nghymru

30 Ion 2017 - 2:52yp

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi'r negeseuon allweddol sy'n deillio o gyfrifoldebau statudol Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a'i chyfrifoldebau adrodd o dan y Cod Ymarfer Archwilio.

27 Ion 2017 - 3:32yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o’r gwaith archwilio sydd wedi’i wneud mewn perthynas â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a Phrif Gwnstabl Gogledd Cymru yn ystod 2016.

27 Ion 2017 - 8:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein canfyddiadau archwilio lleol ynghylch yr asesiad strwythuredig ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn 2016.

10 Ion 2017 - 3:11yp

Mae’r Datganiad hwn yn amlinellu cyfrifoldebau perthansol yr Archwilydd Cyffredinol, yr archwilwyr sy’n gweithio o dan ei drefniadau ar gyfer ardystio ceisiadau am grantiau a chofnodion sy’n gysylltiedig a hwythau, a’r cyrff sy’n gwborwyo neu sy’n cael y grantiau y mae angen iddynt gael eu hardystio.

Tudalennau