Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

20 Mai 2011 - 10:02yb

Paratowyd y ddogfen hon at ddefnydd mewnol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel rhan o’r gwaith a gyflawnir yn unol â swyddogaethau statudol, y Cod Ymarfer Archwilio a’r Datganiad o Gyfrifoldebau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

 

16 Mai 2011 - 10:02yb

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau gwaith archwilio rwyf wedi'i gyflawni yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiwedd 2009 a thrwy gydol 2010. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys archwilio datganiadau ariannol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y cyfnod o chwe mis a ddaeth i ben 31 Mawrth 2010.

24 Maw 2011 - 9:35yb

Ystyriwyd a yw ysbytai yng Nghymru yn darparu gwasanaethau arlwyo effeithlon ac effeithiol sy’n unol ag arfer da cydnabyddedig. Yn ein harchwiliad, ystyriwyd pob un o’r meysydd allweddol sy’n rhan o gynllunio, darparu a monitro gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai

16 Maw 2011 - 8:56yb

Mae'r ailarolygiad hwn yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad 2009 ac yn ystyried effaith ymyrraeth Weinidogol ar drefniadau llywodraethu corfforaethol y Cyngor. Cynhaliwyd yr arolygiad dros bedwar diwrnod yn ystod y cyfnod 23 i 28 Chwefror 2011. Rydym yn cydnabod gwaith staff y Cyngor wrth wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer ein gwaith, a pharodrwydd uwch swyddogion a chynghorwyr i newid eu cynlluniau ar fyr rybudd er mwyn cyfarfod â thîm yr arolygiad. 

8 Maw 2011 - 9:02yb

Mae'r Llythyr Archwilio interim (Llythyr) hwn i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn ymwneud â'm harchwiliadau o'i gyrff rhagflaenol ar gyfer y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2009.

28 Chwef 2011 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol hwn i aelodau Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'r llythyr yn cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill.

31 Ion 2011 - 8:59yb

Mae'r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn cyfleu'r darlun hwnnw a phob blwyddyn byddwn yn llunio adroddiad i roi gwybod i chi am y cynnydd y mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) wedi'i wneud. Nid ydym wedi ymdrin â phob gwasanaeth y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar nifer fach o bethau, yn arbennig y pethau hynny y mae'r Awdurdod wedi dweud yw ei flaenoriaethau o ran gwella. 

 

31 Ion 2011 - 8:56yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

27 Ion 2011 - 9:35yb

Edrychwyd i weld a oedd prosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru a gwblhawyd yn ddiweddar wedi cyflawni eu hamcanion ac wedi'u cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Gwnaethom ganolbwyntio ar gyflawni 18 o brosiectau seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd mawr yng Nghymru a gwblhawyd ers 2004, gan ystyried 10 o brosiectau'n fanwl. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu holl gost, neu o leiaf y rhan fwyaf o gost, y prosiectau hyn fel rhan o'i Blaenraglen Cefnffyrdd neu o'i chyllideb Grant Trafnidiaeth.

27 Ion 2011 - 8:49yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf

Tudalennau