Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

19 Hyd 2016 - 10:45yb

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn rhoi crynodeb o’r gwaith archwilio a gwblhawyd yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers cyhoeddi’r Adroddiad Gwella blaenorol ym mis Gorffennaf 2015.

18 Hyd 2016 - 12:10yb

Yn ystod 2015-16, ar ran yr Archwilydd Cyffredinol, i archwilio pa un a yw Llywodraeth Cymru, y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a’r awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i drechu trosedd a materion diogelwch cymunedol eraill sy’n cael effaith negyddol ar les pobl.

14 Medi 2016 - 3:10yp

Mae’r memorandwm hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol (y Pwyllgor) am y cynnydd a wnaed gan GIG Cymru mewn ymateb i argymhellion a nodwyd yn fy adroddiad i ac adroddiad y Pwyllgor, ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.

12 Medi 2016 - 11:07yb

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi’r gwaith archwilio a gyflawnwyd yng Nghyngor Sir Ceredigion (y Cyngor) ers i’r adroddiad diwethaf o’r fath gael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2015.

6 Medi 2016 - 12:01yb

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried materion sy’n ymwneud â phwerau a dylanwad ehangach Llywodraeth Cymru mewn perthynas â seilwaith a gwasanaethau rheilffyrdd a buddsoddiad cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried perfformiad gwasanaethau ar fasnachfraint Cymru a’r Gororau a chynlluniau ar gyfer caffael gwasanaethau Cymru a’r Gororau o 2018.

18 Awst 2016 - 12:01yb

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn ystyried perfformiad ariannol y 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac ansawdd eu trefniadau rheoli ariannol.

11 Awst 2016 - 4:10yp

Mae’r daflen hon yn amlinellu nifer o gwestiynau pwysig gyda’r nod o roi cymorth i aelodau bwrdd y GIG gael sicrwydd bod eu bwrdd iechyd yn ateb y galw am wasanaethau orthopedeg yn effeithiol, yn ddiogel ac yn economaidd.

21 Gorff 2016 - 12:01yb

Mae’r adroddiad hwn yn asesu pa un a yw amcanion allweddol yn Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn cael eu bodloni ond nid yw’n gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau cynllunio brys a chydnerthedd, na’r ymateb brys i ddigwyddiadau llifogydd. 

21 Meh 2016 - 3:01yp

Mae’r Adroddiad Gwella Blynyddol hwn yn crynhoi’r gwaith archwilio a wnaed yng Nghyngor Sir Powys ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf o’r fath ym mis Gorffennaf 2015.

Tudalennau