Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

28 Ion 2011 - 8:56yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

28 Ion 2011 - 8:56yb

Mae'r adroddiad hwn ond yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol a'i ddiben yw ateb y cwestiwn: ‘A yw trefniadau'r Cyngor yn debygol  o sicrhau gwelliant parhaus?’

27 Ion 2011 - 9:35yb

Edrychwyd i weld a oedd prosiectau trafnidiaeth mawr yng Nghymru a gwblhawyd yn ddiweddar wedi cyflawni eu hamcanion ac wedi'u cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb. Gwnaethom ganolbwyntio ar gyflawni 18 o brosiectau seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd mawr yng Nghymru a gwblhawyd ers 2004, gan ystyried 10 o brosiectau'n fanwl. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu holl gost, neu o leiaf y rhan fwyaf o gost, y prosiectau hyn fel rhan o'i Blaenraglen Cefnffyrdd neu o'i chyllideb Grant Trafnidiaeth.

6 Ion 2011 - 8:59yb

Mae'r adroddiad yn nodi canfyddiadau'r Asesiad Corfforaethol yn unig, ac mae wedi'i lunio i ateb y cwestiwn: 'A yw trefniadau Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru(yr Awdurdod) yn debygol o sicrhau gwelliant parhaus?' 

 

22 Rhag 2010 - 9:35yb

Rydym wedi datblygu model ariannol i nodi'r gwariant cyffredinol ar gost prydau ysgol. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu ein canfyddiadau cynnar yn seiliedig ar gymhwyso'r model i'r wybodaeth sydd ar gael.

8 Rhag 2010 - 9:19yb

Mae'r Llythyr Archwilio Blynyddol (y Llythyr) hwn at aelodau Awdurdod Heddlu Dyfed Powys (yr Awdurdod) yn crynhoi'r casgliadau o'm harchwiliad ar gyfer 2009-10. Mae'n cyflwyno adroddiad i aelodau'r Awdurdod ynglŷn ag unrhyw faterion o bwys sy'n codi o'm harchwiliad, ynghyd â'm sylwadau ar faterion cyfredol eraill. Nodwyd y gwaith y cyflwynir adroddiad arno yn y Llythyr hwn yn y Strategaeth Archwilio y cytunwyd arni ar gyfer 2009-10.

25 Tach 2010 - 9:35yb

Gwnaethom adolygu pob un o'r 22 o asesiadau corfforaethol, i archwilio a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i'r heriau ariannol ac i nodi gwersi allweddol.

23 Tach 2010 - 9:35yb

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried cwestiwn penodol sef p'un a yw'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau tai i oedolion ag anghenion iechyd meddwl wedi gwella.

30 Medi 2010 - 10:35yb

Awgrymodd ein dadansoddiad rhagarweiniol o ddatganiadau Adran 52 y gallai ysgolion arbennig sy'n cynnig darpariaeth debyg ar gyfer disgyblion ag anghenion tebyg fod yn derbyn lefelau sylweddol wahanol o arian, rhwng awdurdodau a hyd yn oed o fewn yr un awdurdod. Er mwyn ceisio cael gwybod mwy am ygwahaniaethau hyn, buom yn ceisio ateb a dod o hyd i enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â'r cwestiwn: 'A yw ysgolion a chynghorau yn gwneud defnydd da o adnoddau i ddiwallu anghenion disgyblion mewn ysgolion arbennig yng Nghymru?’

1 Medi 2010 - 10:37yb

Mae’r cyfarwyddyd hwn wedi’i gynhyrchu ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn crynhoi’r allbynnau sy’n ymwneud yn benodol â Chymru o ran ein hadroddiad diweddar ledled y DU ar werth am arian o fewn y gwasanaeth heddlu – a gyflwynwyd ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, y comisiwn Archwilio ac Arolygwyr Ei mawrhydi (HMIC).

Tudalennau